Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

CSFM(4) 03-13 – Papur 1

 

TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I'R PWYLLGOR CRAFFU AR WAITH Y PRIF WEINIDOG: PROSIECTAU SEILWAITH O BWYS YNG NGOGLEDD CYMRU

 

 

Rhagarweiniad

 

  1. Pwrpas y papur hwn yw cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig  ar brosiectau seilwaith o bwys yn y Gogledd gerbron y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog. Mae'n cwmpasu'r mentrau strategol cenedlaethol sydd o fantais i Gymru gyfan a gweithgareddau buddsoddi penodol mewn seilwaith yn y Gogledd.

 

Buddsoddi yn Seilwaith Cymru

 

  1. Buddsoddiad mewn seilwaith sydd wedi'i dargedu'n briodol yw un o'r prif ffyrdd y gall llywodraeth gyfrannu at dwf a swyddi. Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a chyfoes. Am y rheswm hwn, fel llywodraeth rydym wedi sicrhau bod buddsoddi mewn seilwaith yn cael rôl flaenllaw yn ein cynlluniau i ysgogi a chryfhau'r economi a mynd i'r afael â thlodi, gan ganolbwyntio ein hadnoddau cyfyngedig drwy'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

  1. Fe wnaeth economi Cymru ddioddef yn enbyd yn dilyn y dirwasgiad byd-eang yn yr economi. Mae toriadau sylweddol i'n cyllideb cyfalaf gan Lywodraeth y DU - traean yn is mewn termau real erbyn 2015-16 -   wedi ychwanegu at dwf araf yr economi. Yn ystod y deng mlynedd o 2012-13 i 2021-22, rydym yn amcangyfrif y bydd £4 biliwn yn llai o gyfalaf ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi na'r hyn oedd ar gael yn y degawd blaenorol. Mae'n debygol y bydd amodau'r economi'n parhau i fod yn anodd a'r cyllidebau'n parhau i fod yn dynn.  Felly, ein blaenoriaeth o hyd yw gwneud y cyfan o fewn ein gallu i gryfhau'r economi yng Nghymru a chreu amgylchedd ar gyfer twf a swyddi.

 

  1. Mae dull Llywodraeth Cymru o gynllunio  buddsoddiad yn cydnabod Seilwaith Economaidd a Chymdeithasol:

 

·         Seilwaith Economaidd - ein diffiniad o hyn yw rhwydweithiau ffisegol sy'n cynnal ac yn datblygu gweithgaredd economaidd, fel ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr, porthladdoedd, trydan, TGCh, cyflenwad dŵr a glanweithdra.

 

·         Seilwaith Cymdeithasol - ein diffiniad o hyn yw asedau ffisegol sy'n cynnal a datblygu pobl o fewn Cymru, fel ysgolion, ysbytai a thai.

 

 

 

 

Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru

 

  1. Lansiwyd y cynllun hwn yn 2012 gan y Gweinidog Cyllid ac mae'n amlinellu dull newydd o weithio lle'r ydym:

 

·         yn glir am ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith er mwyn hybu’r economi a chynnal swyddi, gwneud ein trefn yn fwy tryloyw drwy ddarparu llif manwl o’r prosiectau a gyflwynir dros y tair blynedd nesaf a phennu’r ‘cyfeiriad’ ar gyfer y tymor hir;

 

·         yn glir am sut y byddwn yn talu am y buddsoddiad yn ein seilwaith drwy ddefnyddio’n hadnoddau presennol yn fwy effeithlon a chwilio am ddulliau ariannu arloesol a’u rhoi ar waith; ac

 

·         yn glir am ein dull o ddatblygu a gwireddu cynlluniau sy’n sicrhau’r budd cyhoeddus mwyaf posibl drwy ddefnyddio’r arferion gorau

 

  1. Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol cyntaf Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar 11 Mehefin 2013. Un maes nodedig lle ceir cynnydd ac y rhoddir sylw iddo yn yr adroddiad yw mwy o gydweithredu ar draws Llywodraeth a thu hwnt i ddatblygu dealltwriaeth strategol ar y cyd o gyfleoedd ac anghenion seilwaith. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi manylion am gryfhau'r gwaith o werthuso a blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith ar draws y Llywodraeth, Rhaglenni Ewropeaidd a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru o ran cyflawni.

 

  1. Mae'r fframwaith buddsoddi a amlinellir yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru bellach yn cael ei gymhwyso ar gyfer dyrannu ein cyllid cyfalaf. Ers cyhoeddi'r Cynllun y llynedd, mae buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith, sy'n werth oddeutu £1.3 biliwn, wedi'i lywio gan y broses hon. Mae'r £1.3bn hwn yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol o gronfeydd cyfalaf, sef cyfanswm o dros £460 miliwn, a ariennir yn rhannol drwy drosglwyddo cyllid a arbedwyd - drwy reoli'n ddarbodus mewn meysydd eraill o wariant - yn fuddsodiad cyfalaf. 

 

  1. Gwnaed y dyraniadau cyfalaf ychwanegol hyn yn unol â'n saith blaenoriaeth buddsoddi craidd:

 

·         £88.7m ar gyfer gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â £29m i amddiffyn rhwydweithiau seilwaith rhag llifogydd ac erydu arfordirol;

 

·         £10m yn ychwanegol i wella rhwydweithiau telegyfathrebu;

 

·         £15m i gefnogi datblygiad y diwydiant ynni yng Nghymru;

 

·         £46m i ddatblygu ein Hardaloedd Menter a rhwydwaith ehangach cymorth busnes;

 

·         £99.7m i gefnogi mwy o fuddsoddiad mewn tai;

 

·         £98m i wella ansawdd yr ystâd addysg, yn enwedig ysgolion; a

 

·         £75.3 i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon a darbodus

 

  1. Yn y tymor byr rydym yn amcangyfrif y bydd y buddsoddiadau hyn yn creu tua 8,000 o swyddi yn ystod y camau adeiladu. Yn y tymor hir, byddant yn hybu tŵf ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon. Bydd manylion y cynlluniau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn y Gyllideb yn yr Hydref.

 

 

Dulliau Ariannu Arloesol ar gyfer seilwaith o bwys

 

  1. Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu opsiynau ariannu newydd ac arloesol i gefnogi'r blaenoriaethau seilwaith strategol a nodir yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae'r dulliau cydweithredol hyn yn darparu tua £900m o fuddsoddiad ychwanegol mewn meysydd blaenoriaeth yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

  1. Yn 2012 lansiwyd Menter Leol Benthyciadau gan y Llywodraeth a fydd yn golygu y bydd tua £170 miliwn o fuddsoddiad mewn gwelliannau i'r priffyrdd yn ystod y tair blynedd nesaf. Dyma enghraifft dda o'r hyn y mae modd ei gyflawni pan fydd y sector cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi prosiectau a fydd o fantais i gymunedau lleol ac yn sicrhau'r mathau o ganlyniadau sydd eu hangen arnom i gynnal y tŵf yn ein heconomi. Yn y Gogledd, bydd hyn yn arwain at £45m yn ychwanegol o fuddsoddiad mewn ffyrdd lleol rhwng 2012-13 a 2014-15 - buddsoddiad na fyddai wedi digwydd heb ein hymyrraeth ni.

 

  1. Mae sicrhau bod mwy o dai cymdeithasol ar gael yn flaenoriaeth buddsoddi allweddol arall. Dyna pam ein bod yn rhoi mecanwaith newydd ar waith a fydd yn sicrhau £100m yn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at bron 200 o gartrefi newydd yn y Gogledd.

 

  1. Bydd Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn gweld £1.4bn yn cael ei fuddsoddi yn y seilwaith addysg ledled Cymru. Drwy ddefnyddio model Menter Leol Benthyciadau gan y Llywodraeth rydym yn rhoi hwb o tua £200m i fuddsoddiad a fydd yn arwain at gyflawni'r rhaglen hon erbyn 2018-19, ddwy flynedd ynghynt na'r disgwyl.

 

  1. Rydym yn parhau i ddatblygu'r rhain a mentrau eraill mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid sector cyhoeddus a phreifat. Hefyd, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i dderbyn argymhellion Comisiwn Silk. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cryfhau ein dulliau o hybu tŵf a swyddi. Mae sicrhau'r gallu i fenthyca ar gyfer buddsoddiadau strategol allweddol yn hollbwysig os ydym yn mynd i ddatblygu rhwydweithiau seilwaith cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

 

Cynllunio buddsoddi mewn seilwaith

 

  1. Mae cynllunio buddsoddiad cenedlaethol mewn seilwaith yn fater cymhleth, hyd yn oed yn fwy felly yng Nghymru, lle mae Llywodraeth Cymru ond yn rheoli rhai rhwydweithiau'n uniongyrchol, ac eraill wedi'u datganoli'n rhannol neu'n gyfan gwbl. Mae hyn yn cynnwys rhwydweithiau dosbarthu cyfleustodau, fel dŵr ac ynni, yn ogystal ag asedau allweddol, fel porthladdoedd, ar lan y dŵr ac ar wely'r môr o amgylch Cymru. Yn ogystal â hyn, lle mae endidau Cymru yn berchen ar yr ased tir, gall y gyfundrefn sy'n caniatáu buddsoddi yn y seilwaith hefyd fod allan o reolaeth Cymru, gyda'r rheilffyrdd a phrosiectau ynni yn ddau o'r pethau mwyaf nodedig.

 

  1. Mae'n ofynnol cael cymeradwyaeth Llywodraeth y DU ar gyfer yr holl fuddsoddiadau mewn ynni sydd dros 50MW. Mae'r sector Ynni Adnewyddadwy yn enghraifft allweddol, lle mae cymhlethdodau'r gyfundrefn ganiatáu sydd i raddau helaeth heb ei datganoli yn gallu llesteirio buddsoddiad, gan ychwanegu amser, cost a risg i'r hyn sydd eisoes yn brosiectau heriol. Rydym yn dal i alw ar Lywodraeth y DU i ymestyn pwerau Llywodraeth Cymru i gynnwys caniatâd i brosiectau Ynni, i gyd-fynd â gwledydd datganoledig eraill. Er bod y rhagolygon yn wych ar gyfer buddsoddi mewn ynni carbon isel yng Nghymru, mae polisi cyfredol y DU ar ynni yn ein rhoi dan anfantais ddifrifol.

 

  1. Yn achos sectorau sydd heb eu datganoli neu sydd wedi'u datganoli'n rhannol, rydym yn dal i weithio ar y cyd â darparwyr rhwydwaith a gwasanaethau yn ogystal â Llywodraeth y DU i geisio cael y manteision gorau i Gymru. Yn fwyaf nodedig, yn sgil ymgysylltiad cryf â Llywodraeth y DU, rydym wedi llwyddo i drydaneiddio prif linellau y Cymoedd a'r Great Western fel rhan o gynlluniau buddsoddi Network Rail. Fodd bynnag, er bod hwn yn gam ymlaen i'w groesawu ac yn cydnabod seilwaith Cymru yng nghynlluniau ehangach y DU, rydym yn parhau i bwyso'n gryf am foderneiddio seilwaith rheilffordd Gogledd Cymru fel blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn y dyfodol.

 

  1. Lle mae awdurdod wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu buddsoddiadau mewn cydweithrediad â phartneriaid cyflenwi. Rydym wedi cydweithio'n agos â chonsortia trafnidiaeth lleol, fel Taith yn y Gogledd, i gydnabod blaenoriaethau lleol allweddol a datblygu atebion cydweithredol. Ar lefel ranbarthol rydym wedi ymrwymo i sicrhau deialog barhaus â rhanddeiliaid, gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r arbenigedd ar draws yr holl ranbarthau a sectorau i lunio a mireinio ein dull ni o weithredu wrth inni symud ymlaen.

 

  1. Fel rhan o ddatblygiad parhaus Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, mae dealltwriaeth gynhwysfawr o gynlluniau buddsoddi'r presennol a'r dyfodol yn cael ei datblygu ledled Cymru. Bydd hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i lywio  penderfyniadau strategol ac yn cael y canlyniad gorau yn sgil diffyg cyllid, gan gynnwys drwy fanteision cymunedol a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi. Mae'r trydydd cyhoeddiad o'r Llif o Brosiectau Arfaethedig, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn cynnwys am y tro cyntaf gipolwg o gynlluniau buddsoddi ar draws llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol http://wales.gov.uk/funding/wiipindex/pipeline/?skip=1&lang=cy). Mae 46 o gynlluniau Llywodraeth Leol yn y Gogledd yn cael eu cynnwys yn y llif o brosiectau arfaethedig sy'n ymwneud â buddsoddi bron £450m, gan ddangos rôl arwyddocaol cynlluniau Llywodraeth Leol o ran buddsoddi mewn seilwaith.

 

 

Buddsoddiad Seilwaith penodol yn y Gogledd

 

  1. Mae enghreifftiau isod o fuddsoddiadau allweddol mewn seilwaith yn y Gogledd:

 

  1. Menter Cyflymu Cymru  - Drwy gydweithredu â BT rydym yn hwyluso cynllun gwerth £425m  (y bartneriaeth fwyaf o'i bath yn y DU), a fydd yn trawsnewid sefyllfa band-eang ar draws Cymru. Bydd hyn yn gwneud Cymru yn un o'r gwledydd â'r cysylltiadau gorau yn Ewrop. Bydd yn golygu y gall 96% o fusnesau a chartrefi Cymru gael mynediad i'r gwasanaethau a'r cyfleoedd a ddarperir gan dechnolegau digidol drwy wasanaeth band-eang ffeibr erbyn diwedd 2015. Y Gogledd oedd y rhanbarth cyntaf yng Nghymru i elwa o'r buddsoddiad hwn, gyda chabinetau band-eang ffeibr newydd yn cael eu gosod ym Mangor ym mis Chwefror. Mae rhagor o ardaloedd i elwa o gam cyntaf y buddsoddiad yn cynnwys Caernarfon, Dolgellau a Phorthaethwy.

 

  1. Trafnidiaeth - Rydym yn buddsoddi yn yr A55, prif wythïen trafnidiaeth yn y Gogledd. Rydym wedi dyrannu £25m yn ychwanegol dros y 2 flynedd nesaf i sicrhau bod yr ased hwn yn parhau i fod yn addas i'r diben.

 

Hefyd, rydym yn buddsoddi £45m yng nghynllun ailddyblu'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Saltney. Bydd y buddsoddiad hwn yn gweld gwelliannau i gyflymder y llinellau rhwng Wrecsam a Gobowen a signalau gwell yn Nhŷ Croes ar Ynys Môn. Mae hyn yn rhan o'n hamcan strategol ehangach i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de.

 

  1. Yr Amgylchedd - Rydym yn buddsoddi £160m i amddiffyn ein hasedau seilwaith rhag difrod gan lifogydd. Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi dyrannu £25m yn ychwanegol i wella amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol ar draws Cymru, gan gynnwys prosiectau ym Mae Colwyn a Borth. Mae'r buddsoddiad hwn wedi lleihau'r risg i dros 520 o gartrefi, busnesau a seilwaith pwysig fel yr A55, Rheilffordd Arfordir y Gogledd a Lein Arfordir y Cambrian.

 

  1. Ynni - Bydd fferm gwynt ar y môr yn North Hoyle, Bae Lerpwl, Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr yn cynnig cyfleoedd i economi'r Gogledd. Bydd angen uwchraddio'r gwaith newydd arwyddocaol hwn o gynhyrchu ynni carbon isel i'r grid trydan presennol, a bydd hyn yn gyfle nid yn unig i ddiogelu dyfodol y rhwydwaith ond hefyd i annog dulliau arloesol o weithredu cynlluniau cymunedol. 

 

Mae'r Rhaglen Ynys Ynni yn cynnwys cymysgedd o brosiectau cynhyrchu ynni - adeilad newydd Horizon Nuclear, fferm wynt ar y môr Rhiannon a chyfnod nesaf rhes o dyrbinau llanw'r Marine Current Turbines. Mae gan y rhain, ynghyd â chynlluniau eraill sydd ar y gweill, fel ailddatblygu hen safle Alwminiwm Môn a'r tir cyfagos, y potensial i drawsnewid economi Ynys Môn ac i gynnig mantais i ffyniant economaidd ledled y Gogledd. Gallai'r cynlluniau arfaethedig hyn ddod â dros £20bn o fuddsoddiad sector preifat i'r rhanbarth.

 

Mae maint y buddsoddiad a'r allbynnau potensial yn golygu bod dull strategol a chydgysylltiedig o weithredu gan randdeiliaid y sector cyhoeddus a phreifat yn hanfodol. Rydym yn cydweithio'n agos ag adrannau Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, CLlLC a'r sector cyhoeddus/preifat ehangach, i nodi buddsoddiadau strategol galluogol ac i sicrhau'r canlyniadau gorau i fentrau economaidd presennol fel Ardaloedd Menter Glannau Dyfrdwy ac Ynys Môn.

 

Ym mis Chwefror rhoddwyd Trwydded Forol i SeaGeneration Wales Cyf ar gyfer rhes o dyrbinau llanw 10MW cyn-fasnachol oddi ar Ynys Môn. Bydd y prosiect £70m hwn yn ein symud yn agosach tuag at gynnal y rhes o dyrbinau llanw cyn-fasnachol cyntaf yn y DU erbyn 2015. Unwaith y byddant yn weithredol bydd y rhes o dyrbinau yn darparu trydan ar gyfer hyd at 10,000 o gartrefi. Rydym yn cydweithio'n agos ag Ystad y Goron i nodi ardaloedd eraill ar gyfer profi'r tonnau a'r llanw er mwyn sefydlu sector ynni morol yng Nghymru.

 

  1. Tai - Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod yr holl dai cymdeithasol presennol yn cynnig i denantiaid gartrefi fforddiadwy a theilwng. Dros y pum mlynedd nesaf amcangyfrifir y bydd £2.5bn yn cael ei wario gan landlordiaid cymdeithasol ar wella cartrefi pobl.

 

Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn darparu £136m o fuddsoddiad SATC yng Ngwynedd, gan sicrhau'r budd gorau posibl i sgiliau a swyddi lleol. Mae'r buddsoddiad hwn wedi sicrhau 62 o hyfforddeiaethau ar draws y rhaglen, gyda 36 yn ymgymryd â phrentisiaethau NVQ lefel 2 neu 3. Maent yn cydweithio'n agos â Choleg Menai ac yn annog contractwyr i ddefnyddio eu gwasanaethau wrth recriwtio eu prentisiaid.

 

Yn ogystal â hyn, rydym wedi darparu pecyn cyllid gwerth £16.5m i wella safonau tai yng Ngorllewin y Rhyl a chreu cynnig mwy cytbwys ar gyfer tai drwy newid y math o dŷ a'r ddeiliadaeth. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Grŵp Tai Pennaf, bydd y prosiect yn gweld 34 o adeiladau anfoddhaol yn cael eu clirio, 46 o adeiladau eraill yn cael eu hailfodelu/ailwampio, a chreu mannau gwyrdd o ansawdd y mae mawr angen amdanynt.

 

  1. Adfywio - Yn Ardal Adfywio Môn a Menai rydym wedi hwyluso rhaglen sy'n werth £38m a ariennir gan Ewrop i gefnogi Canolfannau Trefi ac Arfordirol ar draws y rhanbarth. Darparwyd cyllid ar gyfer cynlluniau i wella canol trefi mewn llawer o drefi ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Bae Colwyn, Caernarfon, Bangor a Chaergybi.

 

Yn Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru, ar y cyd â chyllid yr UE buddsoddwyd £7.8m i ddatblygu "Porth Eirias", fel rhan o Brosiect y Glannau yn y dref, sy'n werth miliynau o bunnoedd, ac sydd hefyd yn cynnwys cynllun newydd i amddiffyn yr arfordir. Nid yn unig mae hwn yn fuddsoddiad pwysig yn y seilwaith lleol, ond hefyd mae'r gwaith i greu'r buddiannau gorau posibl i'r gymuned wedi arwain at 63% o'r gweithlu a gyflogir ar y cynllun yn dod o gymunedau o fewn cylch o 35 milltir.

 

  1. Addysg - Mae'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn fenter gydweithredol sy'n werth £1.4bn ledled Cymru. Yn y Gogledd bydd y cynllun hwn yn darparu mwy na £220m o fuddsoddiad cyfalaf  blaenoriaeth yn y seilwaith addysg leol erbyn 2018-19.

 

  1. Iechyd - O fewn y sector iechyd rydym yn buddsoddi dros £105m i ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd, er mwyn galluogi'r ysbyty i wella ansawdd ei ddarpariaeth o ofal, gan ddiogelu a chreu cyfleoedd sydd eu hangen yn fawr am waith lleol.

 

 

Casgliad

 

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl dyngedfennol yn cyflenwi prosiectau seilwaith mawr ledled Cymru. Ar y lefel uchaf mae ein dull strategol ni o ddarparu prosiectau seilwaith o bwys yn llwyddiant, ac mae'n hybu buddsoddiad yn seilwaith Cymru, yn meithrin llinellau newydd o gydweithredu ac yn gwella'r wybodaeth am y buddsoddiad arfaethedig a'i amlygrwydd yn y Gogledd ac ar draws y wlad gyfan. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i hwyluso buddsoddiad yn y dyfodol. Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o gyfleoedd cyllido fel y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ac yn datblygu ein hasedion, gan gynnwys y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni.

 

 

 

Y Gwir Anrh  Carwyn Jones AC

Prif Weinidog Cymru